Thursday 29 May 2014

Llond bocs o ugeiniau ceiniog.


Wel. Pan o'n I o'n I'n. Llundain yn y. Coleg. Ag y. Er mwyn talu'n for' trw' coleg o'n i'n gweithio mewn bar yn Elephant and Castle. Lle eitha. Rough. Ar y pryd. Ond y. 'Neud y'n job yn digon da ges i'n g'neud yn Duty Manager so un dydd o'n I yna y. Rheoli dim ond fi a un hogan arall. O'dd yn hogan eitha. Bach fel fi hefyd. Ballet dancer so. O'n ni ddim rhyw. Lawer o iws. Os odd na unrhyw drwbl. Anyway odd hi'n eitha tawel lawr staer ag o'na. Ddau foi. ifanc yn dod a mynd i'r bar fyny staer. Dim problem. Odd hi'n eitha tawel. O'na pool table a felly o'n I just yn meddwl bod nhw'n chwarae a ga'l drinc be' bynnag. Wedyn. Rhyw. Chwarter awr wedyn nes I weld nhw'n mynd. Lawr y staer cefn y bar oedd yn eitha anghyffredin. Oh my god ma' hynna'n od, ma' 'na rhywbeth 'di digwydd man 'yn. So es I fyny'r staer. A. Odden nhw. Wedi. Torri fewn i'r pool table. Dwi'm yn gwybod sut ma rhywyn yn g'neud hynna. Wedi tynnu'r holl beth arian allan. A just 'di mynd a fo. Efo nhw. Allan trw'r drws gefn. So. Dyna lle o'n I a'r hogan fach arall yn mynd. Be 'dan ni fod I neud so. Goro. Ffonio'r heddlu a wedyn yr whole shebang fanno. Be' ma' rhywyn yn 'neud efo. Llond bocs o. Ugeiniau ceiniog. Just mynd mewn i'r banc. Pobol eitha. Od. I gael. Mae rhaid mi ddeud.

No comments:

Post a Comment